Gweithdy Cynhwysfawr ar Gyfryngau Cymdeithasu – Twristiaeth

Dydd Iau 15 Mawrth 2012

Yr Ystafell Gyfarfod, Gwesty’r Dragon, Heol y Brenin, Abertawe, SA1 5LS

9.00am – Cyrraedd a lluniaeth
9.15am - 1.15pm– Gweithdy
1.15pm - Lluniaeth a chloi



This workshop is aimed at those businesses working in the Tourism sector.

Siaradwr Gwadd: Rob Thomas – Cyfarwyddwr, WSI Global Cymru a’r Gorllewin

Yn y byd sydd ohoni, sy’n llawn cyfryngau a thechnolegau cyfathrebu digidol newydd, mae gan gwmnďau o bob maint a diwydiant gyfle enfawr i ehangu cyrhaeddiad eu neges drwy ddefnyddio cyfryngau cymdeithasu.

Ar gyfer y digwyddiad cynhwysfawr hwn, bydd y siaradwr gwadd Rob Thomas yn darparu gweithdy wedi’i anelu at gwmnďau sy’n gweithio yn y Sector Twristiaeth.

Bydd y gweithdy hwn yn darparu gwybodaeth fanwl am ystod o offer Cyfryngau Cymdeithasu, gan ganolbwyntio ar Google Places + ‘hyrwyddo/hysbysebu chwiliad lleol’, Foursquare, YouTube a Facebook, ac yn egluro’r ffordd o gael y budd mwyaf o’r offer hyn i wella eich marchnata neu wasanaeth i gwsmeriaid.

Bydd angen i bawb sy’n dod gael dealltwriaeth sylfaenol o strategaeth Cyfryngau Cymdeithasu i gael y budd mwyaf o’r gweithdy hwn. Os oes gennych unrhyw gwestiynau, anfonwch e-bost atom events@softwarealliancewales.com

Bydd copi PDF o’r cyflwyniad ar gael i bawb yn dilyn y gweithdy, yn ogystal â PDF o “Ganllaw Strategaeth Cyfryngau Cymdeithasu” diweddaraf WSI. Hefyd, bydd gwahoddiad i chi ymuno â grŵp Linkedln caeedig, sy’n darparu cyfrwng parhaus i rannu gwybodaeth, awgrymiadau, cyngor a chefnogaeth rhwng mynychwyr y gweithdy hwn a gweithdai’r gorffennol. Nid yw’r grŵp hwn yn agored i bobl allanol ac erbyn hyn, mae tua 100 o berchnogion busnes, rheolwyr gyfarwyddwyr ac uwch reolwyr o ystod eang o sefydliadau mewn gwahanol sectorau yn rhan o’r grŵp.


Gair am y Siaradwr
Mae WSI yn arbenigo mewn marchnata, gwerthu a datblygu strategaeth cyfathrebu gan gynnwys rheoli enw da ar-lein, marchnata’n ddigidol, datblygu gwefannau, marchnata peiriannau chwilio, a hyfforddiant a mentora ar y Technolegau Cymdeithasu a’r Cyfryngau Cymdeithasu diweddaraf. Mae’r sefydliad yn helpu perchnogion busnes i gynhyrchu rhagor o refeniw a chynyddu’u proffidioldeb, waeth ym mha ddiwydiant y maent.

Mae Rob Thomas yn Gyfarwyddwr Rhanbarth i WSI Global, Cymru a’r Gorllewin, ac yn Rheolwr Gyfarwyddwr i Ymgynghoriaeth WSI-eMarketing.com. Ac yntau’n Ymgynghorydd Marchnata ar y Rhyngrwyd ardystiedig, daeth Rob yn weithiwr Marchnata Digidol proffesiynol a chymwysedig yn Rhagfyr 2009 ac ef hefyd yw aelod y Deyrnas Unedig ac Iwerddon ar Bwyllgor Cynghori Ymgynghorwyr y Rhyngrwyd.

Cynhaliodd Rob gyfres o weithdai ar Gyfryngau Cymdeithasu yn 2011 ac o ganlyniad i’r galw mawr amdanynt, mae wedi cael ei wahodd yn ôl gan SAW i gynnal y gweithdy hwn yn 2012.

I gael adborth gan bobl a fu ar weithdai tebyg yn y gorffennol (yn ysgrifenedig ac ar fideo) cliciwch here.


I archebu eich lle ar y gweithdy hwn a gymorthdelir yn llawn, cliciwch yma

Neu gallwch anfon e-bost atom ar events@softwarealliancewales.com neu ein ffonio ar 01792 606663.

Bydd y gweithdy hwn yn cael ei gyflwyno yn Saesneg. Fodd bynnag, os hoffech chi gymryd rhan yn y gweithdy drwy gyfrwng y Gymraeg, rhowch wybod inni hyd at 4 diwrnod gwaith cyn dyddiad y digwyddiad a byddwn yn ceisio sicrhau bod darpariaethau Cymraeg priodol ar gael. Bydd hyn yn golygu deunyddiau wedi’u cyfieithu o leiaf.

Ymunwch â'n Rhestr Bostio
* indicates required

Hawlfraint ITWales 2010

European Social Fund